Darganfod Sir Gaerfyrddin
CIPOLWG AR

Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin

Ewch yn ôl ganrifoedd a dysgu am orffennol diwydiannol, diwylliannol ac amaethyddol Sir Gaerfyrddin yn amgueddfeydd difyr y sir. Mae'r trysordai hyn yn adrodd hanes treftadaeth amrywiol a chyfoethog Sir Gaerfyrddin ac yn datgelu trysorau hanesyddol ers cyn cof.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Dewch i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin i gychwyn ar daith i ddysgu am orffennol diddorol llawn trysorau cyffrous.

Dyma'r lle perffaith i fwynhau hanes sir sy'n llawn treftadaeth, mythau a chwedlau ac mae'r awyrgylch yn hudol yma.

Mae'r adeilad yn ddarn o hanes ynddo ei hun. Mae'r hen dŷ yn Abergwili yn cael ei ddefnyddio'n ddi-dor ers tua 1290; fel coleg ar y dechrau ac wedyn fel plasty a chartref i Esgob Tyddewi. Mae pob ystafell yn llawn hanes. Dyma ble cafodd y Testament Newydd ei gyfieithu i'r Gymraeg am y tro cyntaf a lle mae modd gweld darn olaf Derwen Myrddin - yn ôl y chwedl y diwrnod y bydd y dderwen yn cael ei symud o Gaerfyrddin bydd y dref yn cwympo.

Dewch i ddarganfod esgyrn mamothiaid o Ogof Coygan, ger Lacharn, bwyeill o Oes y Cerrig, aur Rhufeinig a cherrig bedd o gyfnod y Brenin Arthur.

Gallwch weld paentiadau o safon, seldau Cymreig, crochenwaith lleol a llawer mwy. Un o'r darnau arddangos mwyaf trawiadol yw ffris mawr wedi'i gerfio o gerrig o'r Cadfridog Picton, arwr Brwydr Waterloo.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Abergwili, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA31 2JG.
01267 ​228696.  sirgar.llyw.cymru

Amgueddfa Parc Howard

Amgueddfa Parc Howard

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, tref Llanelli oedd canolfan gweithgynhyrchu tunplat y byd - rhywbeth a oedd wedi rhoi bod i'r llysenw 'Tinopolis'.

Yn ystod y cyfnod hwn tyfodd y dref o fod yn bentref bach i ganolfan ddiwydiant brysur. Heddiw gallwch ddysgu am orffennol diwydiannol y dref drwy ymweld â'r amgueddfa ym Mhlasty Parc Howard, sef adeilad trawiadol mewn parcdir hardd.

Adeiladwyd y tŷ yn 1885 gan y Buckleys, teulu oedd yn gysylltiedig â bragu ers tro. Fe roddwyd y tŷ i dref Llanelli yn 1912 gan Syr Stafford a'r Fonesig Howard.

Mae'r plasty yn adrodd stori tref Llanelli pan oedd yn ei hanterth. Ymhlith yr arddangosfeydd mae hanes 'Olwyn Sbâr Stepney', sef un o'r olwynion sbâr cyntaf a wnaed i geir yn ystod blynyddoedd cynnar moduro. Gwnaed yr olwynion gan y Brodyr Davies yn 1904 ac fe'u gwerthwyd ym mhob cwr o'r byd.

Mae Parc Howard hefyd yn cynnwys y casgliad mwyaf o Grochenwaith Llanelly ac oriel o baentiadau sy'n darlunio gorffennol bywiog a lliwgar y dref. Yn ogystal mae arddangosfeydd rheolaidd yn dangos gwaith artistiaid lleol.

Amgueddfa Parc Howard
Felinfoel Road, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 3LJ.
01554 772029.  sirgar.llyw.cymru

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli

Roedd Cydweli, tref hanesyddol â chastell, yn rhan allweddol o lwyddiant 'Tinopolis' yn Sir Gaerfyrddin yn y 19eg ganrif pan oedd tua hanner y tunplat a gynhyrchwyd yn y byd yn dod o Lanelli a'r ardaloedd gerllaw.

Yn ogystal â bod yn gartref i un o'r cestyll canoloesol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru, gall tref Cydweli honni fod ganddi'r gwaith tunplat hynaf ond un a gofnodwyd ym Mhrydain. Mae'r adeiladau a'r peiriannau'n oroeswyr prin o'r diwydiant pwysig hwn. Sefydlwyd Gwaith Tunplat Cydweli yn 1737 fel yr ail o'i fath yn unig ym Mhrydain. Daeth Charles Gwynn, ei sylfaenydd, ar draws llawer o broblemau fel pobl eraill, ond roedd yr angenrheidiau sylfaenol yno - pŵer dŵr, haearn o’r ardal gerllaw a phorth i dderbyn tun o Gernyw.

Roedd hanes brith gan y gwaith, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn nhref Cydweli ei hun. Yn ei anterth yn 1908, roedd yn cyflogi rhwng 350-400 o bobl; ond pan oedd yn cau'n gyfnodol bu tlodi a chyfyngder mawr. Caewyd y gwaith yn gyfan gwbl yn 1941 oherwydd bod y cyflenwad o dun wedi gostwng yn ystod y rhyfel. Ar ôl iddo gau defnyddiwyd y safle at ddibenion storio ond gadawyd y peiriannau yno a gellir eu gweld o hyd heddiw. Mae darnau o beiriannau o Lofa Marlais a siop gof hefyd i'w gweld. Mae'r amgueddfa'n unigryw gan mai hon yw'r unig un sy'n ymwneud â dehongli'r diwydiant tunplat yn gyffredinol ac yn benodol y prosesau unigol sydd ynghlwm wrth wneud tunplat.

Mae'r amgueddfa'n unigryw gan mai hon yw'r unig un sy'n ymwneud â dehongli'r diwydiant tunplat yn gyffredinol ac yn benodol y prosesau unigol sydd ynghlwm wrth wneud tunplat.

Mae gwaith prosiect hirdymor i godi adeilad ar gyfer trenau'r amgueddfa bellach yn dirwyn i ben. Hefyd mae cynlluniau ar waith i wella'r wybodaeth i ymwelwyr. Gall ymwelwyr fwynhau paned o de yn y dderbynfa ac mae digonedd o lefydd parcio yno. Mae'r amgueddfa'n agor ar gyfer y Pasg ac wedyn o Wŷl Banc y Gwanwyn tan ddiwedd mis Medi.

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Mynyddygarreg, Cydweli, Sir Gaerfyrddin SA17 4LW.
01554 891078 / 01267 228696.  carmarthenshire.gov.uk

Amgueddfa Cyflymder Pentywyn

Amgueddfa Cyflymder Pentywyn

Dewch i wybod rhagor am "Draeth y Gwibwyr" Pentywyn mewn adeilad dramatig, sydd o fewn golwg i'r traeth.

Canolbwynt Amgueddfa Cyflymder Pentywyn yw gorffennol yr ardal fel canolfan ar gyfer ymdrechion i dorri record cyflymder y byd dros dir. Gwnaed yr ymdrech mwyaf nodedig gan Malcolm Campbell yn 1924 pan dorrodd y record yn ei gar V12 Sunbeam Bluebird ar gyflymder cyfartalog o 146.163mya.

Aeth Campbell ymlaen i dorri'r record ar dri achlysur gwahanol ar draeth tywodlyd hir Pentywyn ac roedd nifer o ymdrechion i'w curo. Yn 1927 lladdwyd Parry Thomas wrth iddo geisio curo record newydd Campbell sef 175mya.

Cafodd 'Babs', y cerbyd a yrrwyd gan Thomas yn yr ymdrech hwn, ei gloddio a'i adfer yn llawn ac mae bellach yn cael y prif sylw yn ystod misoedd yr haf ymhlith cerbydau eraill sydd wedi bod yn rhan o ymdrechion i dorri'r record a phethau cofiadwy eraill o fyd rasio. Hefyd mae'r amgueddfa'n arddangos beiciau modur hanesyddol.

Amgueddfa Cyflymder Pentywyn
Pentywyn, Sir Gaerfyrddin SA33 4NY.
01994 453488‎.  sirgar.llyw.cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Hen ffatri Melinau'r Cambrian ym mhentref Dre-Fach Felindre yw cartref Amgueddfa Wlân Cymru. Saif y pentref ym mhrydferthwch Dyffryn Teifi yn Sir Gaerfyrddin ac roedd y dyffryn hwn yn ganolbwynt i ddiwydiant gwlân ffyniannus ar un adeg.

Yn ei anterth roedd 25 o felinau'n gweithio yng nghyffiniau Dre-fach Felindre, a galwyd y pentref yn 'Huddersfield Cymru'. Gwnaed crysau a siolau, blancedi a charthenni, sanau a dillad isaf gwlân yma i'w gwerthu mewn marchnadoedd lleol ac i'w hallforio i bedwar ban byd.

Mae peiriannau gwehyddu hanesyddol yr Amgueddfa, sy'n dal i weithio, yn dangos y broses o wehyddu brethyn o gnu'r ddafad i ddefnydd. Mae oriel yn arddangos yr amrywiaeth eang o frethyn a gynhyrchir gan felinau o Gymru gyfan. Mae'r Amgueddfa hefyd yn gartref i wehydd masnachol ac mae llwybr cerdded goruwch yn rhoi golwg unigryw i ymwelwyr o'r peiriannau gwehyddu ar waith islaw.

Gall ymwelwyr bori trwy ystod eang o frethyn Cymreig a rhoddion yn y siop, a mwynhau cinio ysgafn a chacennau yn y caffi.

Croeso i grwpiau ymweld - ffoniwch 02920 573070 i archebu.

Mae mynediad i'r Amgueddfa, a pharcio, yn rhad ac am ddim.

Amgueddfa Wlân Cymru
Dre-fach Felindre, ger Castell Newydd Emlyn, Llandysul,
Sir Gaerfyrddin SA44 5UP.
02920 573070.  amgueddfacymru.ac.uk

Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru

Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru

Bydd plant o bob oedran yn cael eu swyno wrth iddynt droedio i'r gorffennol yn Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru.

Mae'r amgueddfa'n gartref i gasgliad unigryw sy'n llawn pethau cofiadwy. Yn ogystal â'r eitemau arferol megis tedis, dolis, ceir a threnau, mae arddangosfa helaeth o wisgoedd, ysgoldy a rhyw 10,000 o eitemau o'r gorffennol i'w gweld.

Mae'r rhain yn cynnwys ffigyrau a ysbrydolwyd gan gyfresi teledu poblogaidd megis Dr Who, Batman a'r Avengers. Cafodd llawer o'r teganau a 'wnaed yng Nghymru' eu hallforio i bob cwr o'r byd. Ymhlith y teganau enwocaf oedd modelau deigastiedig Corgi Toys. Daeth rhai o'r ceir a'r ffigyrau hyn yn enwog drwy ffilmiau a rhaglenni teledu megis Chitty Chitty Bang Bang, y Batmobile a'r DB5.

Saif yr amgueddfa mewn 12 erw o gefn gwlad hardd ym Mhen-ffynnon, Llangeler mewn adeiladau fferm cerrig traddodiadol Cymreig a saif o gwmpas yr hen fuarth.

Amgueddfa Plentyndod Gorllewin Cymru
Pen-ffynnon, Llangeler, Sir Gaerfyrddin SA44 5EY.
Tel : 01559 370428.  
toymuseumwales.co.uk